Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil: Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig 

Y Pwyllgor Deisebau | 13 Rhagfyr 2016

Rhif y ddeiseb: P-05-722

Teitl y ddeiseb: Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig  

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwariant ar y ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig yn cael ei glustnodi, gan gydnabod fod hwn yn fuddsoddiad ym mhlant Cymru, ac y dylai awdurdodau lleol gael eu cyfarwyddo i sicrhau bod lefelau digonol o gyllid ar gael fel y gall plant sydd angen gwasanaeth o’r fath fyw bywydau hapus a llawn, ac nad yw eu teuluoedd yn gorfod wynebu’r ofn o gystadlu â’i gilydd am leoedd.

1.       Cyllid i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn defnyddio arian a roddir iddynt o dan y Grant Cynnal Refeniw gan Lywodraeth Cymru i ariannu addysg i ddisgyblion ag AAA. Caiff y swm o dan y Grant Cynnal Refeniw a roddir i bob awdurdod lleol er mwyn darparu gwasanaethau ar gyfer ei holl feysydd cyfrifoldeb ei gyhoeddi bob blwyddyn yn y Setliad Llywodraeth Leol.

Yn 2016-17, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfanswm o £4.102 biliwn o arian i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cynnal Refeniw i ddarparu eu holl wasanaethau. Mae hyn 1.3 y cant (£54 miliwn) yn llai nag yn 2015-16, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau i mewn i'r setliad.

1.1        Arian nad yw wedi’i neilltuo

Arian nad yw wedi’i neilltuo yw’r Grant Cynnal Refeniw, sy’n golygu bod awdurdodau lleol yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch faint o arian y byddant yn ei wario ar faes gwasanaeth penodol megis addysg, ac o ganlyniad ar ddarpariaeth AAA er enghraifft. Mae hon yn egwyddor sylfaenol i gyrff llywodraeth leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), sef y corff cyffredinol sy’n cynrychioli cyrff o’r fath, er mwyn sicrhau y gwneir penderfyniadau sy’n lleol, yn atebol ac yn ddemocrataidd. Fodd bynnag, mae setliad y Grant Cynnal Refeniw yn cynnwys Asesiad ar sail Dangosyddion ar gyfer pob maes gwasanaeth, sy’n gyfrifiad tybiannol o’r hyn y mae angen i bob Cyngor ei wario er mwyn darparu lefel safonol o wasanaeth.[1]  Nid yw’n darged gwariant a gall awdurdodau lleol benderfynu faint o arian y maent yn ei wario ar ddarpariaeth AAA er enghraifft, cyhyd ag y bônt yn bodloni unrhyw ofynion statudol sydd arnynt.

Yn 2016-17, yr Asesiad ar sail Dangosyddion tybiannol ar gyfer ‘Addysg Arbennig’ yw £215 miliwn, sy’n debyg iawn i 2015-16. At hynny, bydd rhywfaint o arian y bwriedir ei ddefnyddio ar ddarpariaeth AAA wedi cael ei gynnwys hefyd yn yr Asesiadau wedi’u Seilio ar Ddangosyddion ar gyfer ‘Meithrin a Chynradd’ ac ‘Uwchradd’. Yn wir, cyfanswm y gwariant gros wedi’i gyllidebu ar ddarpariaeth AAA yn 2016-17 yw £362 miliwn.[2]

Er nad yw'r mwyafrif helaeth o gyllid adnoddau llywodraeth leol yn cael ei neilltuo, mae Llywodraeth Cymru yn dal i dalu rhai grantiau penodol[3]  i awdurdodau lleol at ddiben penodol. Mae nifer y grantiau hyn wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf fel rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a CLlLC i symud tuag at lai o neilltuo yn gyffredinol a mwy o benderfyniadau lleol ynglŷn â’r defnydd o adnoddau. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw grantiau penodol yn ymwneud ag AAA.

Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol am y ffordd y caiff ysgolion yng Nghymru eu hariannu ar gael ym mhapur briffio'r Gwasanaeth Ymchwil, Hysbysiad hwylus ar gyllid ysgolion (Gorffennaf 2016).

2.       Trefniadau rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion

Mae awdurdodau lleol yn ariannu darpariaeth AAA drwy'r dulliau canlynol:

¾    Y cyllidebau dirprwyedig y maent yn eu rhoi i ysgolion. Mae hyn yn golygu cyllidebau dirprwyedig i ysgolion arbennig lle y tybir bod yr holl wariant ar AAA a dyraniadau tybiannol ar gyfer AAA o fewn y cyllidebau dirprwyedig ar gyfer ysgolion prif ffrwd (tybiannol am mai cyfrifoldeb pob ysgol yw penderfynu faint yn union y mae'n ei wario ar AAA). Mae cyllid dirprwyedig yn cyfrif am 73 y cant o gyfanswm y gwariant AAA sydd wedi'i gyllidebu yn 2016-17.

¾    Drwy arian y maent yn ei gadw’n ganolog o fewn Cyllideb Addysg yr Awdurdod Lleol neu'r Gyllideb Ysgolion. Mae 27 y cant o'r gwariant AAA yn cael ei gadw'n ganolog gan awdurdodau lleol yn 2016-17. Y rheswm am hyn yw oherwydd y gallai fod yn fwy effeithlon ac effeithiol darparu neu gomisiynu rhai gwasanaethau, er enghraifft ymyriadau arbenigol, ar lefel awdurdod lleol yn hytrach nag ar lefel yr ysgol.

2.1        Pennu cyllidebau ysgolion

O dan ddarpariaethau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r fframwaith cyfreithiol y mae awdurdodau lleol yn dyrannu eu gwariant ar addysg i ysgolion yn unol ag ef. Nodir y fframwaith yn Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010. Mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddyrannu gwariant i dair cyllideb, Cyllideb yr Awdurdod Lleol, y Gyllideb Ysgolion a'r Gyllideb Ysgolion Unigol.

Mae rheoliadau 2010 yn nodi bod yn rhaid i'r Gyllideb Ysgolion Unigol gael ei dyrannu ymhlith ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod ar ffurf cyfrannau cyllidebol, gan ddefnyddio fformiwla ariannu a bennir yn lleol. Mae'n rhaid i 70 y cant o’r arian gael ei ddosbarthu ar sail nifer y disgyblion. Yn eu fformiwla, gall awdurdodau lleol bwysoli nifer y disgyblion yn ôl nifer o ffactorau gan gynnwys AAA.

3.       Ystadegau ynglŷn ag ariannu

Mae’r tablau isod yn cynnwys gwybodaeth am gyllid AAA a gallent fod yn berthnasol i drafodaethau’r Pwyllgor ynglŷn â’r ddeiseb hon.

¾    Dengys tabl 1 faint o arian roedd awdurdodau lleol wedi’i gyllidebu ar gyfer darpariaeth AAA fel cyfanswm, yn ogystal â’r swm fesul disgybl (pob disgybl nid dim ond y rhai ag AAA). Mae hyn hefyd yn dangos y gyfradd ddirprwyo, h.y. faint o gyllidebau AAA awdurdodau lleol a gafodd eu trosglwyddo’n uniongyrchol i ysgolion.

¾    Mae tabl 2 yn dadansoddi’r data hyn yn ôl awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf, sef 2016-17.

 

 

 

 

Tabl 1: Gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar ddarpariaeth AAA gan awdurdodau lleol yng Nghymru

(Ffynhonnell a nodiadau drosodd, o dan Dabl 2)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Tabl 2: Gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu gan awdurdodau lleol ar ddarpariaeth AAA, 2016-17

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Datganiadau Ystadegol Cyntaf: Gwariant sydd wedi'i gyllidebu ar gyfer darpariaeth AAA(rhifynnau sawl blwyddyn)

Nodiadau:

a)     Tablau 1-2: Mae’n cynnwys dyraniadau tybiannol i ysgolion ar gyfer darpariaeth AAA fel rhan o fformiwlâu awdurdodau lleol ar gyfer dosbarthu arian i ysgolion. Cyfrifoldeb pob ysgol yw penderfynu faint o’i chyllideb ddirprwyedig y bydd yn ei wario ar AAA, a gall y gwariant gwirioneddol fod yn wahanol i’r dyraniadau tybiannol hyn.

b)     Tablau 1-2: Mae gwariant £ fesul disgybl yn seiliedig ar y garfan gyfan o ddisgyblion ar y gofrestr yn hytrach na dim ond disgyblion ag AAA.

r)      Tabl 1: Dyma ffigurau diwygiedig y gwariant gros wedi’i gyllidebu ar gyfer 2013-14 a 2011-12, a gyhoeddwyd fel rhan o ystadegau’r flwyddyn ganlynol. Ni chyhoeddwyd ffigurau diwygiedig ar gyfer y gyfradd £ fesul disgybl na’r gyfradd ddirprwyo, felly mae angen gofal wrth gymharu’r ddau faes hwn â’r cyllidebau gros ar gyfer y blynyddoedd hyn.

4.       Diwygiadau Deddfwriaethol

Ym mis Rhagfyr 2016, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)fel rhan o broses ddeddfwriaethol y Cynulliad. Bydd y Bil arfaethedig yn gosod system ddiwygiedig yn seiliedig ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn lle’r fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) presennol. Fodd bynnag, ni ddisgwylir i’r Bil gynnig y dylid neilltuo neu glustnodi arian, a bydd yn cadw’r trefniadau presennol ar gyfer rhoi adnoddau i awdurdodau lleol drwy’r Grant Cynnal Refeniw i ariannu darpariaeth ADY. 

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi cyhoeddi papur briffio yn ddiweddar, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru, i lywio’r broses o baratoi ar gyfer y Bil a’r gwaith o graffu arno.

Ers rhai blynyddoedd bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw'r system bresennol bellach yn addas at y diben.[4]  Mae'n credu felly y dylai ‘dull gweithredu mwy modern o weithio amlasiantaethol’ er budd y plentyn neu’r person ifanc, a fydd yn eu cefnogi yn y daith drwy addysg a’u dewisiadau bywyd’ gymryd lle 'model a gyflwynwyd fwy na 30 mlynedd yn ôl'.[5]

Fel y nodwyd yn ystod ei hymgynghoriad ar y Bil drafft yn 2015, mae gan Lywodraeth Cymru dri amcan cyffredinol ar gyfer y system arfaethedig newydd:

¾    Fframwaith deddfwriaethol unedig i gynorthwyo plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sydd ag ADY mewn ysgolion ac mewn addysg bellach;

¾    Proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro gydag ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol;

¾    System deg a thryloyw o ddarparu gwybodaeth a chyngor, ac o ymdrin â phryderon ac achosion o apêl.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] Rhestrir yr Asesiadau ar sail Dangosyddion ar gyfer 2015-16 yn nhabl 4d o dablau Excel y Setliad Llywodraeth Leol sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

[2] Llywodraeth Cymru, Datganiad Ystadegol Cyntaf: Gwariant wedi’i gyllidebu ar ddarpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig (AAA): 2016-17, 30 Mehefin 2016, t1

[3] Rhestrir grantiau penodol yn Nhabl 9 o dablau Excel y Setliad Llywodraeth Leol, sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

[4] Llywodraeth Cymru, Cynigion deddfwriaethol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, Rhagair Gweinidogol (Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau), Mai 2014, t2

[5] Llywodraeth Cymru, Ymlaen mewn partneriaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol: Cynigion ar gyfer diwygio’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer anghenion addysgol arbennig, Mehefin 2012, t4